Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau statudol gydag adroddiadau clir

 

27 Ebrill 2015

 

 

CLA 525 Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg 2015

 

Gweithdrefn:  Negyddol

Caiff y Rheolau hyn eu gwneud gan Lywydd Tribiwnlys y Gymraeg ac fe'u caniateir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 123 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Maent yn nodi'r arferion a'r gweithdrefnau y mae'n rhaid i'r Tribiwnlys eu dilyn wrth arfer ei awdurdodaeth o dan y Mesur hwnnw.

 

CLA 526 Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 9) (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn:  Negyddol

Mae'r Gorchymyn hwn yn amrywio Rhan 1B o Atodlen 9 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, er mwyn ychwanegu'r afanc Ewropeaidd at y rhestr o anifeiliaid nad ydynt bellach yn bresennol fel arfer ym Mhrydain Fawr na ellir eu rhyddhau na'u caniatáu i ddianc i'r gwyllt.

 

Offerynnau Statudol sy'n torri'r Rheol 21 diwrnod

 

CLA 524 - Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (Cyfraniadau) (Diwygio) 2015

 

Gweithdrefn:  Negyddol

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (sydd wedi ei nodi yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992 (SI 1992/129)) (“y Cynllun”) fel y mae’n cael effaith yng Nghymru.

 

Mae'r diwygiad yn darparu ar gyfer cyfraddau gwahanol y cyfraniadau pensiwn sy'n daladwy gan aelodau'r Cynllun, sy'n cynyddu yn dibynnu ar y swm o dâl pensiynadwy y mae'r aelod yn ei gael. Nodir y cyfraddau cyfrannu yn y Tabl ym mharagraff 3 o Ran A1 o Atodlen 8 i'r Cynllun.